Oriel Mostyn

test 1
trs set test

BETH YDY MOSTYN?

Y tu ôl i façade terra cotta drawiadol o 1901 yn nhref glan môr arbennig o hardd Llandudno, ceir prif oriel gelf gyfoes Cymru – MOSTYN. Gyda’i thŵr aur yn dirnod lleol, yn 2010 cwblhawyd cynllun o ail-adeiladu ac ehangu, lle mae adeiladau hen a newydd yn cael eu cyfuno yn ôl cynllun gwefreiddiol y pensaer Dominic Williams.

O fewn ei phum oriel mae MOSTYN yn dangos amryw o arddangosfeydd cyffrous sy’n dangos y celf cyfoes gorau a gynhyrchir yng Nghymru, ac yn dod â pheth o’r celf mwyaf diddorol a wneir yn rhyngwladol i Gymru. Ni does gan MOSTYN ei chasgliad ei hun, ond mae’n arddangos ystod eang o arddangosfeydd sydd yn newid bob rhyw ddau fis, ac sydd yn amrywio o sioeau mawr i brosiectau bychain a thafluniadau fideo. Un nodwedd nodedig yw’r arddangosfeydd rheolaidd gan artistiaid o Affrica ac America Ladin.

Mae gan MOSTYN raglen eang a llawn dychymyg o weithgareddau dysgu, sy’n cael ei annelu at ysgolion, colegau, prifysgolion, ieuenctid a grwpiau anghenion arbennig, yn ogystal ag unigolion a disgyblion hŷn. Mae’r siop yn arddangos y gorau o grefft gyfoes o bob rhan o’r Dalaeth Unedig, yn ogystal â llyfrau a chardiau; mae’r caffi yn cynnig bwyd blasus yn seiliedig ar gynnyrch lleol, ac mae’r Ystafell Gyfarfod yn darparu gofod gwych ar gyfer grwpiau i fyny at 60 i gynnal cyfarfodydd a dyddiau hyfforddi. Mae’n syml – MOSTYN yw’r lle mwyaf cyfeillgar ac ysbrydoledig i brofi celf a phensaerniaeth, i fwyta, i siopa, i gyfarfod â chyfeillion, ac i ddysgu rhywbeth newydd! Wela’i chi yna!

Lawrlwythiadau:

English

Troedyn

Canfyddwch ni yn

Oriel Mostyn Gallery
12 Vaughan Street
Llandudno
LL30 1AB
T: +44(0) 1492 879 201
F: +44(0) 1492 878 869
E:

Safle gan View Creative Agency