Gwanwyn yn Siop Mostyn
Mae’n gofod manwerthu rhagorol yn cyflwyno amrediad o eitemau cyfoes wedi eu gwneud â llaw gan grefftwyr lleol a chenedlaethol – yn rhai profiadol ac yn egin wneuthurwyr. O dlysau hardd i eitemau defnyddiol i’r tŷ mae Siop Mostyn yn lle delfrydol i ganfod anrheg anarferol neu rywbeth arbennig i chi’ch hun.
Mali Morris, Mostyn 4 Casgliad II, acrylig ar bapur
I gyd-fynd ag arddangosfa Mali Morris: Gweithiau ar Ganfas a Phapur yn orielau 5 a 6 mae Siop Mostyn yn gallu cynnig am bris arbennig dros gyfnod yr arddangosfa, Mostyn 1-10 Cyfres I, a Mostyn 1-10 Cyfres II. Wedi’u gwneud yn unigryw i’r Mostyn mae’r ugain paentiad acrylig bychan yma yn parhau gyda themâu haniaethol y darnau mwy yn yr arddangosfa gyda lliwiau cyfoethog llewyrchol yn creu symudaid a gofod. Mae’r gweithiau newydd wedi’u henwi i nodi achlysur yr arddangosfa yn Mostyn ac ar gael mewn mowntiau diogelwch yn barod i’w fframio. Gan fod lle yn gyfyngedig yn y siop dim ond detholiad ohonynt sydd yn cael eu harddangos felly holwch wrth y ddesg os hoffech weld y casgliad i gyd.
Mali Morris, Mostyn 10 / Casgliad II, acrylig ar bapur
Yn ychwanegol i baentiadau Mali Morris mae Siop Mostyn hefyd yn gallu cynnig gweithiau o arddangosfa ddiweddar yr artist o Georgia, Misha Shengelia. Mae’r gweithiau bychan olew ar ganfas yma’n dod o’r Royal Mail Series 2001-2011 a gellir cael golwg arnynt yn unigol yma ar dudalennau’r siop â’u harchebu dros y ffôn +44( 0)1492 868191, ebostio shop@mostyn.org neu trwy alw mewn.
Cofiwch fod Mostyn yn rhan o’r Cynllun Casglu, cynllun prynu di-log Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n eich galluogi i brynu gweithiau celf gwreiddiol neu eitemau crefft a thalu amdanynt dros gyfnod estynedig. Holwch am fanylion.
Mae’r casgliad crefftau at y gwanwyn yn cynnwys gymysgedd eclectig o serameg, gwydr, gemwaith, tecstiliau ffasiwn ac i’r cartref, pren a mwy. Mae’r gwneuthurwyr yn cynnwys Laura Thomas, Jo Lavelle, Hannah Louise Lamb, Kaz Robertson, Noboko Okumura, James a Tilla Waters, Kaori Tatebayashi a Gary Allson.
Mae gennym hefyd ystod eang o gardiau cyfarch a chardiau post, cylchgronau celf a dewis o lyfrau yn ymwneud â chelf, gan gynnwys copïau wedi’i llofnodi o Bedwyr I Think I Missed Your Performance gan Bedwyr Williams a Du, Coch, Arall, catalog arddangosfa ddiweddar David Nash yn Mostyn. Bydd y gyfrol i gyd-fynd â’r arddangosfa _apothecari, archifau, eiconau, … _ar gael o ddechrau Mai gyda’r artist Fred Langford Edwards yn Mostyn yn arwyddo copïau ar ddiwedd ei sgwrs ar ddydd Sul Mai 13eg.
Mae Mostyn yn rhan o ddirprwyaeth o Gymru i SOFA (Sculptural Objects and Functional Art Fair) yn Efrog Newydd o Ebrill 20-23. Darllenwch am y ffair ar flog sofacymru

