Oriel Mostyn

ETCHINGS FOR PRIMO LEVI - SGWRS

28 Jan

ETCHINGS FOR PRIMO LEVISGWRS
2YP 28/01/2011 AM DDIM

Ymunwch gyda ni i nodi agoriad arddangosfa Etchings for Primo Levi gan Jane Joseph a chlywed Jane yn sgwrsio am ei gwaith gydag Emma Hill, yr Eagle Gallery, Llundain.

Gydai’i gilydd byddant yn trafod y gwaith sydd gan Jane Joseph yn yr arddangosfa, gan ymdrin â gwaith ysgrifennu Primo Levi a’r sialens wrth geisio cyfleu testunau mor anodd mewn modd creadigol.

Mae Emma wedi adanbod Jane am dros 20 mlynedd ac wedi dangos ei gwaith yn Oriel yr Eagle ar sawl achlysur. Ym 1991 sefydlodd EMH Arts Imprint gyda’r bwriad o gyhoeddi cydweithrediadau rhwng artistiaid cyfoes ac awduron.

Downloads

Jane Joseph

Ganwyd Jane Joseph yn Surrey ac fe astudiodd yng Ngholeg Celf Camberwell, Llundain 1961-65 lle derbyniodd Wobr Leverhulme ac yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain lle derbyniodd Wobr Abbey yn 1991-92.

Ym 1970 sefydlodd stiwdio ger Crughywel ym Mhowys cyn symud i Lundain yn 1980 ac aros yna hyd heddiw. O ddechrau’r 70au ymlaen bu Joseph yn arddangos yn rheolaidd yn rhai o brif orielau Llundain yn cynnwys Oriel Anne Berthoud, Oriel Angela Flowers, ac Oriel Morley, Oriel Piers Feetham, Oriel Beardsmore ac yn fwy diweddar Oriel y Eagle.

Gwelir ei gwaith yn rheolaidd yn Arddangosfa Haf yr Academi Brenhinol (ers 1971) ac mae wedi bod mewn nifer o arddangosfeydd grŵp arwyddocaol yn cynnwys y Cleveland International Drawing Biennial (1975 a 1977), International Print Biennale, Bradford (1986), Gwobrau Celf Hunting, Glasgow a Llundain (1997 a 2003) a’r International Beinnale of Graphic Arts, Ljubljana(2005).

Mae ei gwaith mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys rhai Amgueddfa’r Ashmolean Rhydychen, Amgueddfa ac Oriel Dinas Birminghan; yr Amguedda Brydeinig, Llundain; Amgueddfa Fitzwilliam, Caergrawnt; Gasgliad y Llywodraeth, Llundain; Coleg Hebrew Union, Efrog Newydd; Llyfrgell Herbarium, Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew; Coleg Imperial, Llundain; Llyfrgell Lindley, Cymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, Llundain; Amgueddfa’r Victoria & Albert, Llundain; Oriel Gelf Whitworth, Manceinion a Chanolfan Yale ar gyfer Celf Brydeinig, UDA.

Emma Hill
Mae Emma Hill wedi gweithio fel curadur ac awdur ers graddio o Rydychen yn 1984 a nawr yn Gyfarwyddwr Oriel yr Eagle yn Llundain. Yn ogystal a sefydlu EMH Arts Imprint ym 1991 mae wedi ysgrifennu am lawer o lyfrau artistiaid i gylchgronau yn cynnwys Printmaking Today ac Art Review. Ymysg ei chyhoeddiadau mae With the Melting of the Snows (Paul Coldwell a Martin Bell), Site Unseen (Terry Smith a Mel Gooding), And a__ year ago I commemorated a missed encounter _(Jane Bustin ac Andrew Renton), a _Lo (Julia Farrer a Judith Thurman).

Mae Hill wedi curadu arddangosfeydd yn yr ICA a Gŵyl Gerddoriaeth Aldeburgh ac wedi cydweitho gyda sefydliadau megis Opera Almedia, y Llyfrgell Brydeinig, Amgueddfa Foundling, Gŵyl Gerdd Norwich a Norfolk ac Opera Sadler’s Wells i gyflwyno gosodweithiau safle-benodedig.

Mae’r digwyddiad hwn yn gysylltiedig â’r arddangosfeydd canlynol:

ETCHINGS FOR PRIMO LEVI gan JANE JOSEPH
19 Jan, 2012
to 11 Mar, 2012

English

Troedyn

Canfyddwch ni yn

MOSTYN
12 Stryd Vaughan
Llandudno
LL30 1AB
T: +44(0) 1492 879 201
F: +44(0) 1492 878 869
E:

Safle gan View Creative Agency