Agosatrwydd
08 Sep - 21 Oct 2001
Mae Agosatrwydd yn archwillio’r ffyrdd y mae artistiaid dros yr ychydig ddegawdau diwethaf wedi darlunio gwahanol ffurfiau o berthynas ddynol agos, nid drwy arddangos ymddygiad personol yn agored ond drwy fathau o ryngweithio cynnil a diarwybod yn aml rhwng unigolion a’i gilydd. Mae ein gallu i adnabod gweithreoedd o’r fath fel rhai sy’n datgelu closrwydd rhwng pobl yn dibynnu ar ymwybyddiaeth ddofn o normau cymdeithasol – sy’n amryio rhwng diwylliannau a’i gilydd – ac ar ein dehongliad greddfol o’r ymddygaid cysylltiedig a hwy. Mae mynegi agosatrwydd i’w weld mewn perthynas lle mae cariad, rhyw, cyfeillgarwch, clymau teulu a phethau eraill, ond mae’r mynegiant yn amrywio gan ddibynnu a wneir ef yn gyhoeddus neu’n breifat. Mae’r arddangosfa hon o baentiadau a dynnwyd I raddau helaeth o Gasgliad Cyngor y Celfyddydau, yn edrych ar rai o’r mynegiannau hyn.



