NEW STORIES- David Cox
13 Jul - 31 Aug 2002
Mae David Cox yn creu ffigyrau, masgiau, cerfweddau a gwrthrychiau anarferol o bren, papur, cerdyn a deunyddidau eraill. Distylliadau yw llawer ohonynt sydd wedi eu seilio ar archeteipiau a gysylltir a diwylliant a cherddoriaeth boblogaidd, yn enwedig genres fel hip hop a jazz, reggae a’r bliws. Y tu ol I’r masgiau a’r ffigyrau fe all fod cefndir trefol rehesi dyrys o adeiladau o fflotsam a jetsam adenilledig gwareiddiad modern. Maent yn awgrymu profiadau dirgel a gwaharddedig o bosibl sydd y tu hwnt I’n cyrraedd.
Gallai gweithiau egniol Cox, a grefftwyd yn ofalus ac sy’n llawn cyffro, fod yn bropiau ar gyfer storiau a pherfformiadau, neu’n gynrychiolaethau ohonynt, ond meant yn sefyll fel gwrthrychau hollol annibynnol ynddynt eu hunain. Fe’u hysbrydolwyd gan ysbryd arachaidd sydd yn cyfuno elfen chwareus a phryder dwfn hefyd, ac maent yn dangos ymwybyddiaeth ddofn o fyd teledu a hip hop diwylliant modern, awyrgrafwyr a thanlwybrau, bywyd y stryd a churiad y ddawns. Maent yn edrych yn ysgafn a llawn hiwmor ar yr wyneb ond mae ynddynt ystron dyfnach a chudd. Mae mythau heddiw a churiad cerddoriaeth ym mhob man.




