Oriel Mostyn

Post-Folk Archive Wales

12 Gor - 06 Med 2003

Mae project Vladimir Arkhipov, Post-Folk Archive, yn gasgliad rhyfeddol o wrthrychau ymarferol a wnaed gartref ac mae pob un yn ymgorffori math ar ddyfeisgarwch cartref. Ysbrydolwyd hwy yn aml gan brinder mynediad i nwyddau gwneuthuriedig neu gan yr angen i wneud rhywbeth a addaswyd at dasg neu sefyllfa benodol. Ar ôl treulio blynyddoedd yn casglu gwrthrychau o’r fath ledled Rwsia, gwahoddwyd Arkhipov i wneud yr un peth yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. O erddi, alotments, ffermydd, garejys a cheginau o gwmpas Sir Amwythig a mannau eraill, casglodd amrywiaeth o wrthrychau o wneuthuriad cartref gan gynnwys sgimer burum, cyfrifydd ail isradd ac awyren ysgafn a arddangoswyd yn Oriel Ikon, Birmingham, yn ystod haf 2002.

Yna teithiodd yr artist o Fosgow i Landudno ym Mai 2003 i gasglu gwrthrychu yng Ngogledd Cymru. Y syniad oedd casglu deg neu ddwsin i’w hychwanegu at ryw ddeugain o arddangosfa Birmingham, a’u dangos gyda’i gilydd yn Oriel Mostyn. Fodd bynnag, wrth dreulio deng niwrnod mewn ffermydd, siediau a gerddi rhwng Corwen a Chaernarfon, daeth o hyd i fwy na chwe deg o wrthrychau a dyfeisiadau – digon ar gyfer arddangosfa ar eu pennau eu hunain.

English

Troedyn

Canfyddwch ni yn

MOSTYN
12 Stryd Vaughan
Llandudno
LL30 1AB
T: +44(0) 1492 879 201
F: +44(0) 1492 878 869
E:

Safle gan View Creative Agency