ROMUALD HAZOUMÈ
23 Gor - 04 Med 2011
Gallery 1 / Gallery 2 / Gallery 3
O Weriniaeth Benin, Romuald Hazoumè yw un o brif artistiaid cyfoes Affrica. Yn llawn hiwmor a choegni gwleidyddol, mae ei waith ynghlwm wrth hanes lleol a rhyngwladol gan wneud sylwebaeth gymdeithasol dreiddgar. Mewn cerfluniaeth, gwaith gosod, ffotograffiaeth a fideo mae’n defnyddio, fel metaffor cryf am bob math o gaethwasiaeth, y ddelwedd o’r jerrican plastic du ddefnyddir yn helaeth i gario petrol ar y farchand ddu o Nigeria. Cant eu defnyddio hyd iddynt falu’n rhacs a chael eu taflu o’r neilltu. Mae’r golwg yma ar ystod helaeth ei ymarfer hefyd yn cynnwys paentiadau a gweithiau masg sy’n hynod o syml ond effeithiol, wedi eu gwneud o ddaliwyr plastig daflwyd o’r neilltu, ac yn datgelu’n gynnil weledigaeth beirniadol Hazoumè.
Digwyddiadau Cysylltiol/Gweithdai
O LAGOS I LANDUDNO
08 Med
08/09/2011
7YH AM DDIM
Sgwrs gan Martin Barlow, Cyfarwyddwr Mostyn, ar ddegawd o ddangos arddangosfeydd gan artistiaid cyfoes o Affrica yn yr oriel.



