small small
02 Jul - 01 Aug 2008
Gallery 6
Mae Kuami yn ‘fodernydd Affricanaidd ail- genhedlaeth’ ac mae ei waith haniaethol gemog yn adleisio oes aur gwaith haniaethol Ewropeaidd, tra ar yr un pryd yn cael ei wybodaeth a’i wreiddiau o liw a ffurf ei wlad enedigol, Ghana. Mae’r darluniau yn yr arddangosfa hon yn ddistylliadau o amser a lle, yn marcio teithiau yn ôl ac ymlaen gan artist sydd a’i draed yn Affrica yn ogystal ag yn y Gorllewin. Yn bwysig iawn, mae’r rhain yn enghreifftiau o fath arbennig o beintio cyfoes Affricanaidd, lle nad yw lluosogaeth yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl. Bydd Kwami yn arddangos yn Metropolitan Museum of Art, Efrog Newydd yn ystod mis Hydref.




